Gwenfair Vaughan
Actor & Creadigol
Llais
Croeso i Dudalen Llais Gwenfair , lle gallwch ddarllen am ddetholiad o’i gwaith llais a gwrando ar ei rîl animeiddio.
Mae Gwenfair yn artist llais medrus sydd wedi gweithio i nifer o sefydliadau yn yr Unol Daleithiau a’r DU, yn ogystal â
ei phrofiad llwyfan a sgrin helaeth. Mae ei llais hyblyg wedi cael ei glywed yn portreadu amrywiaeth o gymeriadau mewn animeiddio a drama sain, tra hefyd yn rhoi benthyg ei llais i brosiectau adrodd, hyrwyddiadau, hysbysebion, a chyflwyno.
Wedi lleisio cymeriadau mewn amrywiaeth o acenion a lleisiau, mae’n parhau i ddefnyddio ei hyfforddiant a’i chyfoeth o brofiad ym myd theatr a theledu i greu personoliaethau diddorol, crwn. Mae ganddi hefyd y gallu i greu byd unrhyw brosiect neu stori gyda’i llais, sydd wedi’i ddisgrifio fel un cyfoethog a melys.
Mae'n debyg bod Gwenfair yn fwyaf adnabyddus am ei phortread o Mrs Tiggy-Winkle yng nghyfres animeiddio rhynglwadol 'Peter Rabbit', cyfres enillodd sawl gwobr yn yr UDA yn cynnwys gwobr EMMY, ac nomineiddiad am wobr BAFTA (gwelwch dudalen Y Wasg a Cyhoeddusrwydd). Yr actor cyntaf i gael ei chytundebu ar gyfer y gyfres yn Efrog Newydd, mae'n parhau i bortreadu'r cymeriad eiconig ledled y byd ar Netflix, Nickelodeon UDA, BBC UK, ABC Australia, SKY TV, Apple TV ac Amazon Prime. O syrthio i lawr tyllau cwningod, i helpu Peter a'i gyd-gwningod ffoi rhag perygl, roedd Gwenfair wrth ei bodd yn creu'r draenog siaradus, hoffus fel dynes oedrannus o ogledd Lloegr, sydd â hiwmor, doethineb a blas ar antur!
Hefyd yn Efrog Newydd, chwaraeodd y brif ran fenywaidd mewn drama sain ar-lein ar gyfer Alltel, cwmni ffôn symudol yn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â'r prif fenyw mewn peilot drama ar-lein ar gyfer Rebaunt. Bu hefyd yn lleisio hyrwyddiadau masnachol ar gyfer Cartoon Network a Bank of America, yn ogystal â lleisio nifer o gymeriadau mewn cwrs sain ar gyfer dysgwyr Cymraeg i Hippocrene Books .
Roedd yn anrhydedd i Gwenfair adrodd 'Stop Rape Now', 'Ymgyrch y Cenhedloedd Unedig yn Erbyn Trais Rhywiol mewn Gwrthdaro' ar gyfer y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd. Fel ymgyrch ryngwladol, roedd hi'n un o dîm o actoresau a leisiodd yr ymgyrch dros wahanol wledydd.
Yn yr un modd, cafodd y pleser o adrodd cyfres ddogfen 'The Secret Papers' ar gyfer radio'r BBC, ochr yn ochr â'r hanesydd yr Athro Peter Stead. Archwiliodd y gyfres ffeiliau cyfrinachol Llywodraeth y DU, a ryddhawyd i'r parth cyhoeddus. Hefyd i'r BBC, roedd Gwenfair yn yr unig gyflwynydd ar raglenni radio addysgol i blant BBC Radio Cymru. Byddai'n cynnal y rhaglenni, straeon adrodd, yn ogystal â chwarae cymeriadau amrywiol ym mhob pennod.
Gyda sgiliau cymeriadu cryf, mae Gwenfair hefyd wedi ei gweld yn trosleisio cymeriadau mewn prosiectau animeiddio rhynglwadol i'r Gymraeg, i'w darlledu ar S4C, tra bod ei chyfoeth o brofiad a'i gallu gyda drama hefyd wedi ei chlywed yn portreadu nifer o gymeriadau mewn dramâu radio i'r BBC. Yn ogystal, mae wedi cyfrannu'n rheolaidd at raglenni newyddion Cymraeg BBC Radio tra'n byw yn Efrog Newydd, gan ddarparu adroddiadau Cymraeg am ddigwyddiadau a materion cyfoes yn y ddinas.
I ddarllen mwy am waith perfformio Gwenfair, ewch i'r tudalenau Llwyfan a Sgrin, ac i ddarllen adolygiadau a chyfweliadau, ewch i'r tudalenau Actor a Y Wasg.
Mae riliau llais masnachol, naratif ac animeiddio Gwenfair ar gael i aelodau proffesiynol y diwydiant creadigol ar gais. Os oes ganddoch ddiddordeb mewn trafod prosiect gyda Gwenfair, cwblhewch y ffurflen ar ei Thudalen Cyswllt os gwelwch yn dda.
Diolch am ymlweld a Thudalen Llais Gwenfair.












































PETER RABBIT- MRS TIGGY-WINKLE VIDEO REEL
Gwenfair Vaughan yn serennu fel Mrs Tiggy-Winkle yng nghyfres rynglwadol, aml wobr Peter Rabbit, ennillydd Gwobr EMMY ac nomineiddiad gwobr BAFTA ar ABC Awstralia, BBC DU, Nickelodeon UDA, Amazon Prime Prime, Apple TV a Netflix.

