Gwenfair Vaughan
Actor & Creadigol
Llwyfan

Croeso i Dudalen Llwyfan Gwenfair, lle gallwch ddarllen am ddetholiad o berfformiadau theatr a gweld lluniau o gynhyrchiadau llwyfan.
Mae Gwenfair yn actor llwyfan medrus sydd ag angerdd am weithio yn y theatr. Mae wedi perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau yn Efrog Newydd, yn theatr rhanbarthol yr UDA a’r DU, yn ogystal â theithio’n rhyngwladol. Wedi’i disgrifio fel actor cryf, amryddawn, gyda dawn ar gyfer comedi a drama, mae ei pherfformiadau wedi derbyn cydnabyddiaeth beirniadol, ac yn cynnwys chwarae cymeriadau cyfarwydd mewn dramâu clasurol a rolau gwreiddiol mewn gwaith newydd. Mae wedi perfformio mewn amrywiaeth o acenion, ac mewn amrywiaeth o leoliadau, o theatrau bwa prosceniwm mawr i focsys du clos a mannau awyr agored.
Rôl llwyfan gyntaf Gwenfair yn Efrog Newydd oedd yn rôl teitl drama 'Miss Julie'. Cofleidiodd bortreadu'r aristocrat cymhleth a gafodd berthynas anghyfreithlon â gwas gwrywaidd a arweiniodd i'w dinistr eithaf, yn y trasiedi naturiolaidd ddadleuol gan August Strindberg. Derbyniodd Gwenfair ganmoliaeth gan ddiwydiant theatr Efrog Newydd am ei pherfformiad yn y rôl heriol, a oedd hefyd y cynhyrchiad theatrig cyntaf i Gwenfair gynhyrchu yn y ddinas.
Yn dilyn ei phortread o Miss Julie, cafodd Gwenfair ei chastio i bortreadu'r brif ran benywaidd yng nghynhyrchiad Off-Broadway o 'The Cinnamon Moths', gwaith dramatig llawn tensiwn a phryfoclyd wedi'i osod mewn dyfodol dystopaidd. Penodwyd Gwenfair hefyd yn gapten actio, a derbyniodd gydnabyddiaeth feirniadol am ei pherfformiad yng nghyhoeddiad y diwydiant adloniant Backstage:
"Gwenfair Vaughan yn gosod naws y noson gyda'i phortread emosiynol, llawn focws".
Fel aelod o The Irish Repertory Theater Company, Efrog Newydd, derbyniodd Gwenfair hefyd gydnabyddiaeth feirniadol gan Irish Voice Efrog Newydd a ABC News, Efrog Newydd, am ei phortread o Biddy Madigan yn The Shaughraun gan Don Boucicault. Er i Gwenfair dorri coes yn actio yn y meloddrama Fictoraidd Gwyddelig, parhaodd i berfformio ar faglau pren a wnaed yn arbennig i gyd-fynd â'i gwisg o'r 19eg ganrif!
"Mae Gwenfair Vaughan yn chwarae rhan Biddy Madigan...Sy'n deilwng o bris y tocyn yn unig!" -
Irish Voice', Efrog Newydd
"Mae Gwenfair Vaughan yn gofiadwy iawn fel galarwraig broffesiynol mewn wylnos Wyddelig erchyll"
ABC News, Efrog Newydd.
Mae Gwenfair hefyd wedi mwynhau heriau perfformiad unigol yn 'Turnham Bloody Greene' gyda Mind the Gap Theater, Efrog Newydd. Cafodd ei phortread o Alice, yn rhannu stori ei bywyd unig tra'n sownd ar lwyfan gorsaf drenau Llundain, ei hadrodd drwy ddagrau a hiwmor a derbyniodd ganmoliaeth gan ohebydd BBC:
"Mae perfformiad Gwenfair Vaughan fel yr Alice unig yn deimladwy ac yn chwerwfelys."
Ymhlith hoff berfformiadau eraill Gwenfair yn Efrog Newydd oedd ei phortread o Hesione Hushabye mewn darnau o gomedi George Bernard Shaw 'Heartbreak House' gyda The Pearl Theatre, yn nathliadau pen-blwydd y cwmni theatr glasurol yn 30 oed yn eu theatr ar 42nd Street. Mwynhaodd hefyd berfformio yn Cabaret Danzon, y cabaret rhyngwladol yn La MaMa Theatre, lle y cymerodd un o'r prif rolau fel bardd Cymreig, a ysbrydolwyd gan gymeriadau Waiting for Godot'. Yn yr un modd, cafodd lot o hwyl yn chwarae y prif fenyw yng nghomedi Tittle Tattle yn The British Invasion Comedy Festival yn Ars Nova, gyda cyd gast o actorion o Loegr yn Efrog Newydd.
Yn ogystal, mae Gwenfair wedi cael y pleser o berfformio yng nghynyrchiadau rhanbarthol yn yr UDA o 'A Christmas Carol' ac 'Under Milk Wood', lle portreadodd nifer o'r cymeriadau gwych a ysgrifennwyd gan Charles Dickens a Dylan Thomas. Roedd hi'n falch iawn o'r cyfle i drosglwyddo o un cymeriad i'r llall yn y clasur Cymreig, gan eu portreadu mewn nifer o dafodieithoedd Cymraeg, tra hefyd yn rhannu rôl First Voice, a adroddodd mewn acen Americanaidd Safonol. Cafodd ei pherfformiad gydnabyddiaeth feirniadol mewn Adolygiad Cymdeithas Gymreig Pennsylvania
“… gem y noson, Gwenfair Vaughan oedd fy ffefryn personol, a fydd wir yn dal eich llygad a'ch sylw gyda'i thalent,
ei swyn a'i phresenoldeb."
Wedi teithio'n rhyngwladol, dyfeisiodd Gwenfair rhan y prif fenyw, Ceridwen y wrach dialgar, yn y sioe theatr 'Taliesin', a dderbyniodd The Waterford Audience Choice Award’ yng Ngŵyl Theatr Ryngwladol Dulyn. Roedd y cynhyrchiad a berfformiwyd arwahân yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn seiliedig ar y chwedl Gymraeg am eni y bardd Taliesin o'r chweched ganrif, ac fe'i hadroddwyd gyda chomedi corfforol, cerddoriaeth a dawns . Aeth y sioe ymlaen i lwyddiant teithiol, gan berfformio yng Ngogledd America, Asia ac Ewrop, tra'n cael cydnabyddiaeth feirniadol gan amrywiaeth o gyhoeddiadau ar draws sawl gwlad.
Ymhlith perfformiadau cydnabyddiedig eraill Gwenfair oedd ei phortread o Rebecca yn 'Into the East' gyda Theatr Spectacle Cymru. Roedd y ddrama deimladwy a dramatig yn adrodd sut y daeth yr opera i blant, Brundibar, i fodolaeth gyntaf yn ghettos Tsiecoslofacia, a feddiannwyd gan yr Almaen.
"Gwenfair Vaughan oedd yn chwarae Rebecca. Wrth iddi gnoi ar dafod ei esgid i leddfu poenau newyn, roeddech chi'n teimlo'r newyn hwnnw. Roedd yn berfformiad teimladwy a dramatig lle gwnaeth i chi deimlo'n euog am yr erchyllterau a bortreadwyd. Perfformiad rhagorol."
I ddarllen adolygiadau o sioeau theatr, ewch i dudalen Actor a Y Wasg, ac ewch i dudalennau Sgrin a Llais Gwenfair i ddysgu mwy am ei gwaith perfformio. I ddarllen am ei gwaith creadigol, ewch i'r dudalen Creadigol.
Os oes ganddoch ddiddordeb mewn trafod prosiect Theatr gyda Gwenfair, cwblhewch y ffurflen ar ei Thudalen Cyswllt os gwelwch yn dda. Diolch am ymlweld a Thudalen Llwyfan Gwenfair.