top of page

Sgrin

GG35.1.jpg

Croeso i Dudalen Sgrin Gwenfair, lle gallwch ddarllen am ddetholiad o'i pherfformiadau teledu a ffilm a gweld lluniau cynhyrchiadauu sgrin.

 

Mae gan Gwenfair gyfoeth o brofiad fel actor ar y sgrin, yn ogystal â'i gwaith helaeth fel actor llwyfan a llais. Mae hi'n angerddol am archwilio dyfnderoedd ei chymeriadau, ac wrth ei bodd â'r her o ddod â nhw'n fyw ar y sgrin, gan greu cymeriadau crwn a chredadwy. Dechreuodd weithio ym myd teledu yn gynnar yn ei gyrfa, a chyn gweithio yn Efrog Newydd, ymddangosodd yn gyson ar y teledu, gan bortreadu amrywiaeth o gymeriadau rheolaidd a gwestai mewn sawl tymor o gomedi a drama, tra hefyd yn ymddangos mewn ffilm annibynnol a gweithio fel cyflwynydd ar gamera.

 

 

Yn Efrog Newydd, chwaraeodd Gwenfair y prif fenyw yn 'Gods Gift', cystadleuydd yng nghategori The Academy Awards Best Live Action Short Film', ochr yn ochr â Frank Pellegrino a Max Kellerman. Yn y ffilm ddramatig, sy'n archwilio'r berthynas rhwng enwogion a'u cefnogwyr, portreadodd Gwenfair Dr Jenkins, llawfeddyg trawma, sy'n dial yn erbyn seren pêl-fas. Hefyd Chwaraeodd y prif fenyw yn 'Tywallt Inc' drama unigol i S4C, lle portreadodd gwraig gariadus i awdur a gollodd ei ysbrydoliaeth greadigol, a ddaeth wedyn yn gyfrifol am ei thranc difrifol.

 

Ymysg hoff rannau teledu rheolaidd Gwenfair oedd ei phortread o'r newyddiadurwr ymchwiliol a'r cynhyrchydd radio Leanne Prys yn yr opera sebon 'Pobl y Cwm', gan y BBC ar gyfer S4C. Mwynhaodd bortreadu'r cymeriad uchelgeisiol a'r natur gyflym o weithio ar y ddrama hirhoedlog, gyda'r cyfle i ddatblygu ei chymeriad dros gyfnod estynedig o amser, tra'n cymryd rhan mewn straeon dramatig, teimladwy ac ysgafn, yn y stiwdio ac ar leoliad.

 

Mwynhaodd Gwenfair y cyfle i ddefnyddio ei gallu comedig ar y teledu wrth bortreadu'r prif fenyw, Megan mewn dau dymor o'r comedi sefyllfa 'Hafod Haidd' ar gyfer S4C. Roedd hi wrth ei bodd yn chwarae merch pigog y teulu ffermio tywyllodrus oedd yn byw mewn budreddi, wedi ei ffilmio ar leoliad ar fferm, ac ar set stiwdio. Roedd paratoad dyddiol Gwenfair ar gyfer y rôl yn cynnwys cael ei breichiau, coesau, gwyneb a'i gwddf wedi'u gorchuddio â chymysgedd clai brown i efelychu baw, melynu ei dannedd a matio ei gwallt, cyn dringo mewn i ddillad budr wedi'u rhwygo, a phâr o sgidiau glaw. 

 

Mae Gwenfair hefyd wedi ymddangos mewn amryw gyfresi teledu fel cymeriadau gwadd. Ymhlith hoff rolau gwadd Gwenfair oedd mewn pennod o ddrama feddygol wythnosol ar S4C, lle portreadodd dynes busnes annifyr ar gwrs hyfforddi awyr agored, pan cafodd ei grŵp ei stelcio gan ddyn efo gwn. Mwynhaodd heriau corfforol y stori, a ofynodd iddi a'i chyd-actorion redeg mewn coedwig, croesi afon ar raff, a chymeryd lloches mewn gwahanol leoliadau yn y tandyfiant i greu'r amgylchiadau ofnus tra'n cael eu dilyn.

Yn ogystal â'i phrofiad actio ar y sgrin, mae Gwenfair hefyd wedi mwynhau gweithio fel cyflwynwraig stiwdio deledu a lleoliad, rôl sydd wedi bod yn addas i'w diddordeb mewn pobl a'i gallu i feddwl ar ei thraed. Yn Efrog Newydd, ysgrifenodd a cyflwynodd  adolygiadau theatr ar beilot teledu ar gyfer Dinas Efrog Newydd, yn ogystal ac ysgrifennu a chyflwyno cyflwyniad i 'Wythnos Cymru Efrog Newydd' ar gyfer Llywodraeth Cymru, Efrog Newydd. Ei chytundeb teledu cyntaf oedd fel cyflwynydd ar raglen i blant ar S4C, ac yna rhaglen gelfyddydol a chylchgrawn 'The Wrap' ar gyfer BBC Choice, pan y fu'n cyfweld ag artistiaid o wahanol genres am eu gyrfaoedd.​​​

  

​I ddarllen mwy am waith perfformio Gwenfair, ewch i'r tudalennau Llwyfan a Llais. I ddarllen adolygiadau a chyfweliadau, ewch i dudalenau Actor a Y Wasg. I ddarllen am ei gwaith creadigol, ewch i'r dudalen Creadigol. 

 

Os oes ganddoch ddiddordeb mewn trafod prosiect Sgrin gyda Gwenfair, cwblhewch y ffurflen ar ei Thudalen Cyswllt os gwelwch yn dda. Diolch am ymlweld a Thudalen Sgrin Gwenfair.

.

Lluniau Cynhyrchiadau Sgrin

S4/C            BAFTA           BBC            EMMYS          ABC AUSTRALIA           NETFLIX     

CHANNEL 5     AMAZON       ITV     NICKELODEON 

ADULT SWIM    ALTELL WIRELESS      UNITED NATIONS        BANK OF AMERICA      

THE PEARL THEATER COMPANY NEW YORK 

THE IRISH REPERTORY THEATRE NEW YORK 

 CARTOON NETWORK 

ARS NOVA NEW YORK

   WAREHOUSE THEATRE LONDON    
                                          

www.GwenfairVaughan.com - Actor & Creative
imdb.png
  • Twitter
  • Linkedin

 

        ©Copyright 2025 Gwenfair Vaughan. All rights reserved.

       It is prohibited to copy, reproduce, duplicate, or use any

content of this website, including text, photographs, video & audio/voice recordings.

 

bottom of page