Gwenfair Vaughan
Actor & Creadigol
Amdani

Mae Gwenfair yn Actor a Swyddog Creadigol amlddisgyblaeth sydd a profiad eang o weithio yn Niwydiannau Creadigol yr UDA a’r DU. Bu’n gweithio yn Efrog Newydd am nifer o flynyddoedd, mae'n raddedig o'r enwog Lee Strasberg Theatre & Film Institute Efrog Newydd, mae ganddi hefyd BA mewn Cyfathrebu (Drama) o Brifysgol Cymru, yn ogystal ag astudio gyda'r Commercial Theatre Institute, Efrog Newydd.
Gyda gyrfa yn cwmpasu corff amrywiol o waith, mae Gwenfair wedi ei disgrifio fel actor cryf, amryddawn, gyda'r dawn i berfformio comedi a drama. Mae wedi gweithio mewn sawl acen, ac wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei pherfformiadau theatr. Yn ogystal â'i gyrfa berfformio, mae ganddi brofiad gweithredol yn y Diwydiannau Creadigol yng nghyd-destun y DU ac UDA, sydd wedi ei gweld mewn sawl rôl theatrig allweddol, yn ogystal â phrofiad mewn teledu ac fel awdur comisiynol yn Efrog Newydd.
​
Dechreuodd hoffter Gwenfair at berfformio a'r celfyddydau yn ifanc, wrth iddi gael ei magu yn y diwylliant Cymreig o ganu a pherfformio, a'i harweiniodd yn ddiweddarach i astudio am ei gyrfa hirsefydlog yn y Diwydiannau Creadigol. Ar ôl chwarae ystod eang o gymeriadau mewn teledu, ffilm, theatr, animeiddio, radio, a prosiectau llais masnachol yn y Gymraeg a Saesneg yn y DU, symudodd wedyn i Efrog Newydd. Gan yna ganolbwyntio ei gyrfa berfformio ar weithio yn sector theatr a llais Efrog Newydd, gweithiodd Gwenfair ar lwyfannau Efrog Newydd, gan dderbyn cydnabyddiaeth feirniadol am ei pherfformiadau.
​​​​
Fel actor, mae'n debyg ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei phortread o Mrs Tiggy-Winkle yng nghyfres animeiddio arobryn rhynglwadol, 'Peter Rabbit', ennillydd gwobr EMMY a nomineiddiad gwobr BAFTA. Yr actor cyntaf i gael ei chontractio ar gyfer y gyfres yn Efrog Newydd, mae'n parhau i bortreadu'r cymeriad eiconig ledled y byd ar Netflix, Nickelodeon UDA, BBC DU, ABC Awstralia, SKY TV, Apple TV ac Amazon Prime.
​
Mae Gwenfair hefyd wedi cymeryd rhan fel cyflwynydd ar gamera a digwyddiadau byw yn y DU ac Efrog Newydd, rôl sy'n addas i'w diddordeb mewn pobl a'i gallu i feddwl ar ei thraed. Wedi mwynhau rôl fel Cyflwynydd EMMYS Gwadd, ac edrych ar ol enwogion i'r Academi Deledu Genedlaethol yn Efrog Newydd am nifer o flynyddoedd, cafodd y pleser weithio gyda'r arbennig Graham Norton fel Cyflwynydd EMMYS Gwadd i'r Academi Deledu Rhyngwladol. Ac wrth weithio ar y seremoni arbennig yma, cafodd y profiad unigryw o gael ei phenodi ag Asiant Arbennig o Wasanaeth Cudd yr Unol Daleithiau i'w diogelu wrth rannu'r llwyfan gyda Hilary Rodham Clinton ac Oprah Winfrey.
​​​
Yn hapus i gynnig ei hamser i berfformio mewn digwyddiadau dyngarol yn Efrog Newydd, roedd hi'n falch i fod yn gyflwynydd gwadd blynyddol ar gyfer 'Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe', y wobr fawreddog rhyngwladol i awduron ifanc. Cafodd hefyd y pleser o nareiddio yng nghyngerdd 'Royal Coronations & Pageantry' gyda 'Chor Brenhinol Capel San Sior Castell Windsor' i gefnogi elusen yr Ardd Brydeinig Efrog Newydd, ac roedd yn falch o ddarllen First Voice mewn darlleniad elusenol o Under Milk Wood er budd Lloches Digartref Rutgers yn Efrog Newydd.
I ddysgu mwy am waith perfformio Gwenfair, ewch i'w thudalenau Llwyfan, Sgrin, a Llais, tra bod adolygiadau a chyfweliadau, ar gael ar dudalenau Actor ac Y Wasg a Cyhoeddusrwydd. I ddysgu am ei gwaith Creadigol, ewch i'r dudalen Creadigol.
​
Os oes ganddoch ddiddordeb mwen trafod prosiect gyda Gwenfair, cwblhewch y ffurflen ar ei Thudalen Cyswllt os gwelwch yn dda. Diolch am ymlweld a gwefan Gwenfair.
​
​
​​​​
​
​​​​​