Gwenfair Vaughan
Actor & Creadigol
Creadigol

Yn ogystal â'i gyrfa berfformio, mae gan Gwenfair brofiad gweithredol eang yn y Diwydiannau Creadigol yng nghyd-destun Cymru, y DU ac UDA. Mae ganddi lefel uchel o greadigrwydd, yn ogystal â sgiliau rheoli prosiectau, arweinyddiaeth a threfnu cryf. Gan weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg mae ganddi sgiliau cyfathrebu dwyieithog a rhyngbersonol rhagorol.
​
Mae ei rôl fel artist creadigol yn Efrog Newydd wedi ei gweld fel Cynhyrchydd Creadigol, Cynhyrchydd Theatr, Rheolwr Llenyddol Theatrig, Ysgrifennwr, Cyfarwyddwr Datblygu Cynulleidfaoedd, yn ogystal â phrofiad o weithio ym maes cynhyrchu teledu. Fel Cynhyrchydd Creadigol ar gyfer sefydliadau nodedig yn Efrog Newydd, gweithiodd mewn cydweithrediad â chyrff llywodraeth ddomestig a rhyngwladol y DU a'r Unol Daleithiau yn ogystal â sefydliadau blaenllaw Wall Street.
​​Mae gwybodaeth theatrig drylwyr Gwenfair a'r holl brofiad theatr gwmpasog sydd wedi ei gweld fel Cynhyrchydd Theatr a Rheolwr Llenyddol, wedi ei gweld yn ddiweddar fel Cynhyrchydd Ymgynghorol i gwmni theatr yn y DU. Yn meddu ar ddealltwriaeth o'r dirwedd theatrig drawsatlantig, mae Gwenfair hefyd wedi graddio o'r Cwrs Cynhyrchu Theatr Fasnachol yn The Commercial Theater Institute Efrog Newydd, cwrs unigryw ar gyfer pobl greadigol theatr brofiadol, dan arweiniad prif gynhyrchwyr a rheolwyr cyffredinol yn Efrog Newydd.
​
​Yn ogystal â'i phrofiad cynhyrchu, mae hi wedi cyfarwyddo prosiectau theatr ac wedi hyfforddi actorion ar gyfer clyweliadau. Mae ei chred ym mhŵer drama i helpu plant ac oedolion fynegi eu hunain a chael dealltwriaeth am eu hunain ac eraill wedi gweld Gwenfair yn arwain, ac fel aelod o dîm yn cynnal gweithdai drama i blant o wahanol oedrannau a chefndiroedd.
​​
​Mae sgiliau ysgrifennu a sgriptio Gwenfair wedi ei gweld yn ymgymeryd â nifer o rolau. Fel awdur comisiynol ar gyfer asiantaeth hysbysebu, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus rhynglwadol yn Efrog Newydd, dyfeisiodd a sgriptio cyfres adloniant ar gyfer sianel deledu ar-lein newydd. Hefyd yn Efrog Newydd, ysgrifenodd a cyflwynodd adolygiadau theatr ar beilot teledu ar gyfer Dinas Efrog Newydd, yn ogystal ac ysgrifennu a chyflwyno cyflwyniad i 'Wythnos Cymru Efrog Newydd' ar gyfer Llywodraeth Cymru, Efrog Newydd. Mae gan Gwenfair hefyd brofiad o gyd ddyfeisio sgriptiau theatr, mae ganddi brofiad fel ysgrifennwr copi, ac mae wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer cyhoeddiadau Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae Gwenfair yn gweithio ar lechen o sgriptiau drama a chomedi ar gyfer eu datblygu yn y dyfodol.
​​​
Os oes ganddoch ddiddordeb trafod prosiect gyda Gwenfair, cwblhewch y ffurflen ar ei Thudalen Cyswllt os gwelwch yn dda.
Diolch am ymweld a Thudalen Creadigol Gwenfair.
​